Croeso

Croeso i dudalen gwe Cylch Darllen Aberystwyth

Ydych chi’n hoffi darllen? Oes gyda chi farn am beth yr ydych chi’n ei ddarllen? Hoffech chi rannu’r farn honno gydag eraill a chlywed beth maen nhw’n ei feddwl? Os felly, Cylch Darllen Aberystwyth yw’r lle perffaith i chi.

Bydd Cylch Darllen Aberystywth yn cyfarfod yn fisol yn nhafarn y Cŵps yn Aberystwyth i drafod llyfrau. O’r herwydd fe’i gelwir weithiau yn Cylch Darllen y Cŵps. Mae aelodau’r Cylch Darllen yn barod i wrando ar farn ei gilydd ac i fynegi barn eu hunain am y llyfrau diweddaraf maen nhw’n eu darllen.

Yn y llun gwelir yr aelodau a ddaeth ynghyd ddechrau Mawrth 2010 i drafod nofel Siân Owen, Mân esgyrn. Beth am ymuno gyda ni y tro nesaf? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.

Cylch Darllen Aberystwyth yn trafod Mân esgyrn gan Siân Owen 2010-03-08

Cylch Darllen Aberystwyth 2010-03-08

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.