Mân esgyrn gan Siân Owen (Mawrth 2010)

2010-02-01

Sylwch fod y Cylch Darllen yn cyfarfod ar yr ail nos Lun, 8 Mawrth, y tro hwn. Fis Mawrth fe fydd y Cylch Darllen yn trafod Mân esgyrn gan Siân Owen.

Clawr Mân esgyrn gan Siân Owen

Pwy yw Siân Owen

Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn ond fe’i magwyd ar Ynys Môn. Aeth i Ysgol Uwchradd Bodedern a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Sian Owen yn gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun. Mae’n fam i dri o blant ac yn byw ym Marian-glas, Ynys Môn. O ran cefndir mae Sian Owen yn wyddonydd, ac mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg. Yn y gorffennol bu’n gweithio am gyfnodau gyda’r BBC yn cynhyrchu rhaglenni i Radio Cymru ac yna’n golygu gwerslyfrau gwyddonol i CBAC. Ar hyn o bryd mae’n astudio’n rhan amser ar gyfer PhD mewn ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn. Enillodd Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féili Filíochta yn 2007. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Alaw. Daeth yn ail agos ar Wobr Goffa Daniel Owen yn 2009 gyda’i nofel Mân Esgyrn.

Adolygiadau

Adolygiad Eiry Miles ar wefan BBC Cymru.

Dyma adolygiad Dafydd Morgan Lewis
(Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)

Dros y misoedd diwethaf mae ambell ffrind wedi fy nghyhuddo o fynd dros ben llestri wrth ganmol Y Llyfrgell, y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen 2009. Rhaid dweud fy mod yn amheus ynghylch a yw’r ffrindiau hyn wedi darllen y llyfr o gwbl, ac yn sicr nid yw’n fwriad gennyf dynnu gair yn ôl o’r adolygiad hwnnw.

Ond yn awr dwi’n cael fy hun yn adolygu’r gyfrol a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth honno. A rhaid dweud mai llith ganmoliaethus fydd hon eto. Mae’n amlwg i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn y Bala fod yn un gref iawn. Yr wyf wedi dyfalu llawer sut y bu i’r beirniaid benderfynu pa nofel oedd flaenaf yn y ras gan fod y ddwy mor drawiadol ac, ar yr un pryd, mor gwbl wahanol i’w gilydd. Tra bod Y Llyfrgell yn llawn cymeriadau lliwgar a digwyddiadau cyffrous, nofel dawel, hamddenol yw Mân Esgyrn.

Lleolir y nofel yng nghysgod Mynydd Parys ar Ynys Môn ac mae naws a thafodiaith y ardal yn treiddio trwy’r stori i gyd gan gyfoethogi’r mynegiant. Crynhoir y cyfan o’r digwyddiadau i’r tridiau pan gynhelir Gŵyl y Llychlynwyr yn y cylch. Ond achos o dwyll a ddigwyddodd ugain mlynedd ynghynt sydd, mewn gwirionedd, yn gyfrifol am y tyndra yn y stori.

Effeithia hyn yn benodol ar drindod o gymeriadau sef Carol, Helen a Luc. Ond mae yna gymeriadau pwysig eraill fel rhieni Helen, Sera, merch Carol, a Bryn, ei chyn-ŵr.

Ymwneud y bobl hyn â’i gilydd yw cryfder mawr y nofel. Buan y deuwn i ddeall fod yna gyfrinachau a digwyddiadau o’r gorffennol yn eu clymu wrth ei gilydd. Mae’n amlwg mai rhywbeth o’r gorffennol hwnnw a achosodd i Carol adael yr ardal a mynd i fyw i Loegr. Erbyn hyn mae hi wedi dychwelyd i’w chynefin, ond mae’r tensiynau yno o hyd. Dod yn ôl i’r fro i weithio ar raglen deledu wnaeth Luc, ond mae’n amlwg fod rhywbeth arall yn ei ddenu hefyd. Aros yn ei chynefin a wnaeth Helen, oherwydd iddi fethu dianc, efallai. Yn raddol fe ddatgelir y cyfrinachau sydd wrth wraidd yr hanes, a beth yw gwir achos y tyndra rhwng y cymeriadau.

Llwyddir i gyfleu’r tensiwn gan amlaf mewn hanner brawddegau o sgwrsio awgrymog, a thrwy beidio â dweud fawr ddim o gwbwl. Ond fe ffrwydra’r cyfan i’r wyneb ar bnawn Sul braf gyda’r prif gymeriadau i gyd yn cael cinio yng nghartref rhieni Helen – hynny ar yr un diwrnod yn union ag y digwyddodd damwain ddifrifol yng Ngwaith Bromin Môn lle mae Helen yn cael ei chyflogi.

Mae yna ôl ymchwil fanwl a gwybodaeth wyddonol sy’n cyfrannu at werth y nofel. Ond yr hyn sydd yn aros efo rhywun yw’r cymeriadau credadwy a’r ymdeimlad o gariad ac adnabyddiaeth o gymuned arbennig a darn o dir ar Ynys Môn.

Dyma nofel gyntaf wirioneddol drawiadol.

2 Ymateb i “Mân esgyrn gan Siân Owen (Mawrth 2010)”

  1. Dogfael Says:

    Wedi dechrau darllen Mân esgyrn a dwi’n cael blas arni yn barod. Mae’n darllen yn hawdd iawn. Dylai’r llyfr hwn brofi’n boblogaidd gydag aelodau’r Cylch Darllen.

  2. Dogfael Says:

    Cafwyd trafodaeth dda yn y Cylch Darllen neithiwr, 8 Mawrth, ar lyfr Siân Owen. Roedd pawb yn gytûn fod yr ysgrifennu’n dda – telynegol oedd disgrifiad rhai ohono. Ond roedd cytundeb hefyd nad oedd y stori yn symud yn ddigon cyflym ar brydiau a bod y cymeriadau, heblaw am y prif rai, braidd yn wan. Teimlid bod y nofel gyntaf hon yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol a bydd yr awdur yn datblygu ei chrefft. Ar ddiwedd y noson fe wnaeth pawb oedd yn y Cylch (heblaw am un) bleidleisio ac fe gafodd y llyfr sgôr cyfartaleddol o 7.125. Da iawn.


Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.