Cyffesion Geordie oddi cartref gan Tony Bianchi (Hydref 2010)

2010-09-08

Yng nghyfarfod mis Hydref o’r Cylch Darllen fe fyddwn ni’n trafod Cyffesion Geordie oddi cartref gan Tony Bianchi.

Dyma beth ddywed y cyhoeddwr am y gyfrol hon o straeon byrion.

Dyma gasgliad o storïau ‘hunangofiannol’ sy’n troedio’r ffiniau aneglur rhwng ffaith a ffuglen, rhwng atgofion a hunllefau. Gyda phinsiaid o hiwmor a sachaid o arswyd, mae’r awdur yn ein cyflwyno i’w deulu, i’w ffrindiau ac, yn bennaf oll, i’w hen gythreuliaid. Awn yn ôl i’r ysgol Gatholig ar Tyneside lle dysgodd sut i ladd octopws. Ymwelwn â Miskin Meg, i gael siarad â’i dad yn Uffern. Ym Mogotá, cawn wers hynod am bwysigrwydd yr englyn ar gyfer amddiffyn cyfraith a threfn. Ac yn ôl yng Nghaerdydd, treuliwn hanner awr annisgwyl yng nghwmni un o ddihirod gwaethaf rhyfeloedd y Balcan. Trwy’r cyfan, gwelwn y plentyn sy’n dal i grynu y tu mewn i bob un ohomom ‒ a chwerthin am ben ei ymdrechion pitw i gadw’r bwgan draw.

Ceir adolygiad o’r gyfrol gan Janice Jones ar wefan BBC.

Ychydig o wybodaeth am yr awdur ar wefan Cyfnewidfa Lên Cymru.

Un Ymateb i “Cyffesion Geordie oddi cartref gan Tony Bianchi (Hydref 2010)”

  1. lyndafis Says:

    Dyfarnwyd sgôr o 7.5 i Gyffesion Geordie oddi cartref gan ddarllenwyr Cylch Darllen Aberystwyth.


Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.