Bydoedd: cofiant cyfnod gan Ned Thomas (Rhagfyr 2010)

2010-11-08


Pa ffordd well i ddathlu gŵyl Sinterklaas – gŵyl a ddethlir ar y dydd hwn yn Fflandrys – na dod i gyfarfod mis Rhagfyr o Gylch Darllen Aberystwyth. Cynhelir y cyfarfod nos Lun 6 Rhagfyr am 7.30pm yn nhafarn y Cŵps. Y tro hwn byddwn yn trafod hunangofiant Ned Thomas, Bydoedd: cofiant cyfnod.

Dyma beth sydd gan gyhoeddwyr y llyfr i ddweud amdano.

O fydoedd hen a newydd, i’r cythryblus a’r cyffrous, rhyfedd o fyd yw bydoedd Ned Thomas. Ac mae rhyw ryfeddod yn y ffaith bod un o’r rhai a gyfrannodd mewn ffordd mor gyhoeddus i’r ymgyrch i ennill Sianel Gymraeg yn cyhoeddi llyfr sy’n sôn am y weithred ar adeg pan mae dyfodol y sianel yn y fantol eto.

Yr wythnos y cyhoeddir Bydoedd yn Aberystwyth bydd rali fawr yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn y toriadau arfaethedig yn dilyn y cyhoeddiad mai’r BBC fydd yn ariannu S4C o 2013 ymlaen. Fel hyn y mae Ned Thomas yn dechrau croniclo’r hanes gwreiddiol yn ei lyfr, “Ni fydd sianel Gymraeg yn datrys holl broblemau’r iaith heb sôn am broblemau economi Cymru, ond mae teledu yn fater pwysig. Gwyddwn dipyn am y maes cymhleth hwn. Roedd consensws pobl Cymru ar y mater yn glir. Yn raddol sylweddolais y byddai cenedl a oedd yn bodloni ar y driniaeth a dderbyniodd ym mater y sianel yn fodlon derbyn popeth. I mi gweithred fach symbolaidd yn dangos ein bod yn gwrthod y fath driniaeth oedd gweithred Pencarreg.”

Yn ei gyfrol Bydoedd fe ddilynwn Ned Thomas ar sawl taith – o ymweld â’r Pab pan yn blentyn, i osgoi merched dengar y KGB ym Mosco, cwrdd ag aelodau ETA, cael ei amau o fod yn ysbïwr yng Nghymru, a diffodd mast Pencarreg yng nghwmni Merêd a Pennar.

Nid hunangofiant mohono, ond mae Ned Thomas, sydd wedi ymgartrefu ym mhentref Llwynpiod, rhwng Llangeitho a Thregaron, yn sgrifennu yn onest a chraff am fywyd anghyffredin. Mae’n adnabyddus fel awdur, darlithydd a sylfaenydd Canolfan Mercator yn Aberystwyth ac arweinydd yr ymdrech i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd ac mae’r llyfr yn llawn o atgofion difyr.

Dechrau’r wythnos roedd Ned Thomas yn dychwelyd o daith arall – y tro hwn o Ŵyl Lyfrau Istanbwl i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus am lenyddiaeth a chyhoeddi mewn ieithoedd lleiafrifol. “Mae’r pwnc yn un dadleuol oherwydd sefyllfa’r Cwrdiaid,” meddai Ned Thomas. “Maent ar drothwy cyfnod cyffrous yn hanes eu hiaith a’u diwylliant.”

Ceir adolygiad o’r llyfr gan Glyn Evans ar wefan Cylchgrawn BBC Cymru.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.