Un ddinas, dau fyd gan Llwyd Owen (Ebrill 2011)

2011-04-13

Clawr Un ddinas, dau fyd gan Llwyd Owen

Yng nghyfarfod mis Ebrill y Cylch Darllen byddwn ni’n trafod nofel ddiweddarad Llwyd Owen, Un ddinas, dau fyd

Dyma beth sydd gan gwefan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, i’w ddweud am y nofel.

Aeth deg mlynedd heibio ers i Luc Swan ladd dau aelod o’r boy band Fflach! Ac i Emlyn Eilfyw-Jones brofi ei lwyddiant mwyaf gyda’i ffilm ddogfen am y digwyddiad hwnnw. Mae Emlyn yn dal i geisio ennill hygrededd creadigol, ond mae ei brosiect diweddaraf yn llanast llwyr ac yn sicr o dramgwyddo ei nemesis dieflig – comisiynydd ffilm a drama’r Sianel, Steffan Grey. Ac i ychwanegu at y straen, mae gan wraig Emlyn, Cariad, newyddion da o lawenydd mawr iddo…
Yn wahanol i gyfryngis Caerdydd, mae Rod wedi bod yn brwydro trwy gydol ei fywyd ar stad Trelai. Ond mae ganddo freuddwyd, a chamera fideo – ac mae llwybr ei fywyd ar fin gwrthdaro ag un Emlyn yn nofel newydd arobryn o Gaerdydd, sy’n ddilyniant i “Ffawd Cywilydd a Chelwyddau”.

Mae gan yr awdur wefan bersonol.

Ceir adolygiad gan Megan Jones ar wefan Cylchgrawn BBC Cymru.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.